Personal tools
A Network of Excellence forging the
Multilingual Europe Technology Alliance

META-NET White Paper Series: Welsh

null

The Welsh Language in the Digital Age / Y Gymraeg yn yr Oes Ddigidol

Series editors: Georg Rehm, Hans Uszkoreit

Authors

Contributors

Quotes

  • Meri Huws (Comisiynydd y Gymraeg): “Er mwyn hwyluso’r prosesau llunio polisi yn y Gymru ddwyieithog, rhaid wrth ymchwil wreiddiol, o’r safon uchaf, gyda’r dystiolaeth a’r dadansoddiad gorau ar gyfer cynllunwyr ieithyddol. A’r Gymraeg bellach yn iaith swyddogol yng Nghymru, mae angen is-strwythur cadarn er mwyn sicrhau ei lle yn y dirwedd ieithyddol. Mae technoleg iaith yn rhan hanfodol o hynny ac mae cyfres papurau gwyn META-NET yn gyfraniad hollbwysig i’r maes.”
  • Meri Huws (Welsh Language Commissioner): “In order to facilitate policy formulation in a bilingual Wales, high quality, and original research is needed, which contains the best evidence and analysis for Language planners. In Wales, Welsh is now an official language and in order to ensure its place in the linguistic landscape, we need a robust infrastructure. Language technology is an essential element of this and the META-NET series of white papers is an extremely important contribution to the field.”
  • Carwyn Jones (Prif Weinidog Cymru): “Er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr 21ain ganrif, rhaid i dechnoleg a chyfryngau digidol fod ar gael yn hawdd yn y Gymraeg. O’r herwydd, croesawaf y cyhoeddiad hwn gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yng nghyfres papurau gwyn META-NET, sy’n darparu gwybodaeth werthfawr i ni ynghylch technoleg iaith Gymraeg.Mae’r papur yn gyfraniad pwysig i’r maes ac yn darparu dadansoddiad gwerthfawr o’r sefyllfa sydd ohoni. Da nodi bod y Gymraeg wedi ei chynnwys yn y gyfres hon o Bapurau Gwyn Ewropeaidd ac rwyf yn ddiolchgar i Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd am eu cyfraniad. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu er mwyn annog creu a defnyddio technoleg iaith Gymraeg. Edrychwn ymlaen at arwain datblygiadau yn y maes pwysig hwn.”
  • Carwyn Jones (First Minister of Wales): “In order to ensure that the Welsh language thrives in the 21st century, Welsh language technology and digital media must be readily available. I therefore welcome this publication by Cardiff University’s School of Welsh in the META-NET White Paper Series, which provides us with valuable knowledge with regards to Welsh language technology. This paper is an important contribution to the field and provides a valuable analysis of the current situation. It is encouraging to see that the Welsh language is being included in this series of Europe-wide White Papers and I am grateful to Cardiff University’s School of Welsh for their contribution. The Welsh Government has recently published an action plan to encourage the consumption, creation and use of Welsh-language technology. We look forward to leading developments in this important area.”
  • Meirion Prys Jones (Prif Weithredwr, Network for the Promotion of Linguistic Diversity): “A ninnau’n rhwydwaith sy’n gweithio gydag ieithoedd “llai eu defnydd”, mae’n hanfodol inni fod yn ffynhonnell o gyngor ac arweiniad i’n haelodau ynghylch potensial technoleg iaith. Mae’r cymorth rydym wedi ei dderbyn gan META-NET wedi bod yn amhrisiadwy gan fod ein haelodau’n sylweddoli oni bai eu bod yn cofleidio’r potensial y mae technoleg yn ei gynnig iddynt, ac yn manteisio arno, ni fydd eu hieithoedd yn goroesi. Ar hyn o bryd, datblygiad technoleg yw’r bygythiad mwyaf iddynt, ond hefyd eu cyfle gorau i ffynnu yn y dyfodol. Mae papurau gwyn META-NET yn amhrisiadwy, mae’r wybodaeth a’r cyngor arbenigol maent yn eu darparu yn gymorth mawr i droi damcaniaeth yn weithgarwch gefnogaeth ymarferol i’n hieithoedd.”
  • Meirion Prys Jones (CEO, Network for the Promotion of Linguistic Diversity): “As a network that works with “lesser-used” languages, it’s vital that we’re able to act as a conduit for advice and guidance to our members on the potential of language technology. The support we’ve had from META-NET has been invaluable as our members realise that unless they embrace and take advantage of the potential that technology offers then their languages won’t survive. At present the development of technology is their biggest threat but their best opportunity to flourish in the future. The META-NET White Papers are invaluable, the detailed and practical expert advice they provide greatly helps in turning theory into practical support for our languages.”
  • Rhodri Williams (Cyfarwyddwr Cymru, OFCOM): “Yn rhy aml o lawer, poeni am gadw’r gorffennol y mae ymdrechion i ddiogelu a chynnal y Gymraeg. Mae’r papur hwn yn edrych tua’r dyfodol ac yn dangos sut y gall technoleg gynorthwyo’r iaith a’i siaradwyr i feddu ar safle haeddiannol yn y byd digidol. Mae’n tynnu sylw at faint sydd eto i’w wneud os yw’r Gymraeg i fanteisio’n llawn ar yr hyn sydd gan dechnoleg i’w gynnig, gan mai gwan yw’r gefnogaeth a gaiff yr iaith ymhob un o’r categorïau a gaiff eu mesur – os caiff gefnogaeth o gwbl. Darllen hanfodol i bawb sy’n llunio polisi ac yn cynllunio iaith.”
  • Rhodri Williams (Director, OFCOM): “All too often efforts to safeguard and sustain the Welsh language are concerned with trying to preserve the past. This paper looks to the future and demonstrates how technology can assist the language and its speakers occupy their rightful space in the digital world. It draws attention to how much has yet to be done if Welsh is to take full advantage of what technology has to offer, since the language receives weak or no support at best in each of the measured categories. Essential reading for policy makers and language planners.”
  • Emyr Lewis (Aelod, Pwyllgor Arbenigwyr Siartr Ewrop ar gyfer Ieithoedd Lleiafrifol neu Ranbarthol 2001-2013): “Mewn byd sy’n gynyddol gysylltiedig, mae llawer o bŵer gan y sawl sy’n berchen ar y dechnoleg sydd yn ein cysylltu, yn ei rheoli neu yn ei siapio. Yn y cyd-destun hwn, ieithoedd lleiafrifol yw’r rhan fwyaf o ieithoedd y byd, yn brwydro am gydnabyddiaeth yn y lle cyntaf, ac wedyn am adnoddau a’r offer i hwyluso eu defnydd. Wrth adolygu’r datblygiadau hyn i’r Gymraeg, ac yn eu rhoi mewn cyd-destun byd-eang, mae’r papur gwyn META-NET hwn yn cynnig adolygiad deallus a huawdl o’r materion a wynebir, a’r strategaethau sydd ar gael i’r holl ieithoedd yn y sefyllfa hon, ac nid dim ond y rheini a ystyrid yn rhai ‘lleiafrifol’ yn draddodiadol. Dylai cynllunwyr iaith proffesiynol ac eraill sy’n pryderu am gadw hawliau iaith ac sydd am hybu amrywiaeth diwylliannol ei ddarllen.”
  • Emyr Lewis (Member, Committee of Experts of the European Charter for Regional and Minority Languages 2001-2013): “In an increasingly connected world, much power vests in those who own, control or shape the technology that connects us. In this context, most languages are minority languages, struggling in the first place for recognition, and then for resources and tools to facilitate their free use. In reviewing these developments for Welsh, and putting them in a global context, this META-NET white paper offers an intelligent and articulate review of the issues faced, and strategies available to all languages in this position, not only those traditionally considered to be in the category of "minority". It is required reading for professional language planners and others concerned to preserve language rights and promote linguistic diversity.”

This Volume

The Series

 

Preface

This white paper is part of a series that promotes knowledge about language technology and its potential. It addresses journalists, politicians, language communities, educators and others. The availability and use of language technology in Europe varies between languages. Consequently, the actions that are required to further support research and development of language technologies also differ. The required actions depend on many factors, such as the complexity of a given language and the size of its community.

META-NET, a Network of Excellence funded by the European Commission, has conducted an analysis of current language resources and technologies in this white paper series. The analysis focused on the 23 official European languages as well as other important national and regional languages in Europe. The results of this analysis suggest that there are tremendous deficits in technology support and significant research gaps for each language. The given detailed expert analysis and assessment of the current situation will help maximise the impact of additional research.

As of January 2012, META-NET consists of 54 research centres from 33 European countries. META-NET is working with stakeholders from economy (software companies, technology providers, users), government agencies, research organisations, non-governmental organisations, language communities and European universities. Together with these communities, META-NET is creating a common technology vision and strategic research agenda for multilingual Europe 2020.

Rhagarweiniad

Mae’r papur gwyn hwn yn rhan o gyfres sy’n hyrwyddo gwybodaeth am dechnoleg iaith a’i photensial. Mae’n targedu addysgwyr, newyddiadurwyr, llunwyr polisi, gwleidyddion, cynrychiolwyr a chymunedau ieithyddol ac eraill. Mae faint o dechnoleg iaith sydd ar gael yn Ewrop a’r defnydd ohoni yn amrywio rhwng ieithoedd. O ganlyniad, mae’r camau gweithredu y mae eu hangen i gefnogi ymchwil bellach ac i ddatblygu technolegau iaith hefyd yn wahanol ar gyfer pob iaith. Mae’r camau gweithredu angenrheidiol yn dibynnu ar sawl ffactor, megis cymhlethdod yr iaith a nifer ei siaradwyr.

Yn y gyfres hon o bapurau gwyn, mae META-NET, rhwydwaith o ragoriaeth a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd, wedi cynnal dadansoddiad o’r adnoddau a thechnolegau ieithyddol cyfredol sydd ar gael. Canolbwyntiodd y dadansoddiad ar 23 iaith swyddogol Ewrop yn ogystal ag ieithoedd cenedlaethol a rhanbarthol pwysig eraill Ewrop. Mae canlyniadau’r dadansoddiad hwn yn awgrymu bod llawer o fylchau ymchwil sylweddol ar gyfer pob iaith. Bydd dadansoddiad mwy manwl-arbenigol ac asesiad o’r sefyllfa bresennol yn helpu i fanteisio i’r eithaf ar ymchwil ac i leihau risgiau. Fis Tachwedd 2011, roedd META-NET yn cynnwys 54 o ganolfannau ymchwil o 33 o wledydd Ewropeaidd sydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid o’r economi (cwmnïau meddalwedd, darparwyr a defnyddwyr technoleg) asiantaethau llywodraethol, sefydliadau ymchwil, sefydliadau anllywodraethol, cymunedau ieithyddol a Phrifysgolion Ewropeaidd. Ar y cyd â’r cymunedau hyn, mae META-NET wrthi’n creu gweledigaeth gyffredin ar gyfer technoleg ac agenda ymchwil strategol ar gyfer Ewrop amlieithog yn 2020.